Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-20-12 papur 5
Ymchwiliad i Ddiogelu’r Arfordir yng Nghymru – Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

CYFLWYNIAD
1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol ac mae awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol, y tri gwasanaeth tân ac achub a’r pedwar heddlu yn aelodau cyswllt.
2. Ei nod yw cynrychioli’r awdurdodau lleol yn ôl fframwaith polisïau sy’n cyd-fynd â phrif flaenoriaethau ei haelodau. At hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu at fyd llywodraeth leol Cymru a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
3. Mae yn y ddogfen hon dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad mae Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei gynnal ynglŷn â diogelu arfordir Cymru. Mae’n ystyried cynnydd Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau sy’n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o ran cyflawni amcanion Strategaeth Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru.
4.
Rhaid canmol Llywodraeth Cymru am lunio a chyhoeddi’r
strategaeth wladol yn ogystal â chyhoeddi’r canllawiau
am lunio strategaethau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd fis
Tachwedd 2011. Trwy hynny, mae wedi rhoi rhywfaint o
strwythur i’r asiantaethau sy’n ymwneud â
llifogydd ac erydu arfordirol.
Amcanion y strategaeth wladol, y rhai lleol a
chynlluniau rheoli glan y môr
5. Dyma bedwar prif amcan y strategaeth wladol:
· lleddfu effaith llifogydd y môr ac erydu arfordirol ar bobl, cymunedau, cwmnïau a’r amgylchedd;
· codi ymwybyddiaeth pobl ac ymgysylltu â nhw wrth ymateb i berygl llifogydd y môr ac erydu arfordirol;
· rhoi ymateb effeithiol a pharhaol i lifogydd y môr ac erydu arfordirol;
· blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau sydd mewn perygl.
6. Cynlluniau rheoli glan y môr: Dechreuodd gwaith paratoi’r cynlluniau yn 2009, cyn y strategaeth wladol, a bu’r ymgynghori yn 2010/11. Mae pob cynllun yn pennu camau ac amcanion yn ôl pedwar dewis allai fod ar gael dros dri chyfnod: 0-20 mlynedd; 20-50 mlynedd a 50-100 mlynedd. Dyma’r dewisiadau:
· Dal y tir – ceisio diogelu’r arfordir i ryw raddau heb symud y morgloddiau;
· Dim camau – tybio na fydd eisiau cynnal a chadw’r morgloddiau presennol na chodi rhai newydd yn eu lle;
· Ailosod yn drefnus – ildio peth tir i’r môr fel y bydd yn haws diogelu’r arfordir;
·
Symud ymlaen – adennill tir o’r môr trwy godi
morgloddiau newydd y tu hwnt i’r rhai presennol.
7.
Bellach, mae’r cynlluniau gerbron panel adolygu
ansawdd sy’n penderfynu a ddylai roi sêl ei fendith
arnyn nhw. Mae cynlluniau gweithredu’n rhan o’r
adolygu hwnnw, hefyd. Mae’n amlwg bod pedwar prif amcan
y strategaeth wladol yn berthnasol i’r cynlluniau, ond gan eu
bod wedi’u paratoi cyn y strategaeth, allwn ni ddim dweud bod
yr amcanion hynny wedi dylanwadu’n uniongyrchol arnyn
nhw.
8.
Bydd angen ailystyried y cynlluniau, fodd bynnag, wrth
lunio’r strategaethau lleol. Bydd angen adolygu
cynlluniau rheoli llifogydd (wedi’u paratoi yn 2009/10)
hefyd.
9.
Nodwch fod dwy ran o arfordir Cymru mewn cylchoedd
arfordirol sy’n cynnwys rhannau o Loegr. Mae Cylch
Arfordirol Aber Hafren yn ymestyn o Drwyn Larnog i Gaerloyw ac, o
Gaerloyw i Drwyn Hinkley, Gwlad yr Haf. Felly, mae’n cynnwys
arfordir de-ddwyrain Cymru (o Gas-gwent i Drwyn Larnog). Yn y
gogledd, mae Cylch Arfordirol Gogledd-ddwyrain Lloegr a Gogledd
Cymru yn ymestyn o Benygogarth i Aber Dyfrdwy ac, o Aber Dyfrdwy i
ffiniau Lloegr a’r Alban.
10. Wrth ateb gofynion Deddf ‘Rheoli Llifogydd a Dŵr’ 2010, rhaid i’r ddau gylch arfordirol hynny ystyried amcanion strategaethau Cymru a Lloegr fel ei gilydd. Gan eu bod wedi gweithio yn ôl amserlen Lloegr, maen nhw wrthi’n cyflwyno cynlluniau gweithredu yn barod ac, yn y de-ddwyrain, mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Aber Hafren yn mynd rhagddi, hefyd. (Ar ôl ‘strategaethau’ y daw ‘cynlluniau’ fel arfer ond, yn yr achos hwn, y cynllun yw’r polisi ar gyfer yr arfordir a’r strategaeth sy’n pennu sut mae rhoi’r polisi hwnnw ar waith.)
11.
Ynglŷn â pharatoi strategaethau lleol, mae cymalau 1 a 2 adran 10 Deddf ‘Rheoli
Llifogydd a Dŵr’ yn dweud y canlynol:
(1) Rhaid i bob awdurdod sy’n arwain materion llifogydd yng Nghymru lunio, cynnal, defnyddio a monitro strategaeth rheoli perygl llifogydd yn ei ardal.
(2) Ystyr ‘perygl lleol’ ynglŷn â llifogydd yw:
a. Dŵr ffo.
b. Dŵr daear.
c. Dyfrffosydd arferol.
12. Yr awdurdodau lleol sy’n arwain materion llifogydd yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol orffen ei strategaeth erbyn 31ain Mawrth 2013. Gan fod y strategaethau hynny ar y gweill o hyd, mae’n anodd dangos ar hyn o bryd y modd maen nhw’n cydblethu â’r strategaeth wladol ac eithrio dweud bod pob awdurdod lleol yn gweithio yn ôl pedwar prif amcan y strategaeth. At hynny, maen nhw’n cymryd i ystyriaeth ganlyniadau’r asesiadau rhagarweiniol gynhalion nhw ynglŷn â pheryglon llifogydd, yn ogystal â chynlluniau rheoli glan y môr a chynlluniau rheoli llifogydd, wrth bennu pa gymunedau sydd mewn perygl.
13. Bydd y strategaethau lleol yn ddogfennau lefel uchel ac ynddyn nhw’r egwyddorion i’w defnyddio wrth ystyried gwybodaeth am berygl llifogydd. Bydd cynlluniau ar gyfer yr ardaloedd mae tyb eu bod mewn perygl yn cael eu paratoi yn ôl yr egwyddorion hynny ac yn unol â Deddf ‘Rheoli Llifogydd a Dŵr’ 2010, gan gymryd polisïau gwladol a lleol perthnasol eraill i ystyriaeth, hefyd.
14. Er bod rhaid gorffen pob strategaeth leol erbyn 31ain Mawrth 2013, mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy wedi gofyn i bob awdurdod sy’n arwain materion llifogydd gyflwyno fersiwn arfaethedig iddo erbyn mis Rhagfyr 2012 er mwyn iddo roi sêl ei fendith arnyn nhw. Mae’r amserlen o ran llunio’r fersiynau arfaethedig braidd yn dynn. I gydymffurfio â’r strategaeth wladol, rhaid i bob strategaeth fod yn destun asesu amgylcheddol strategol ac mae gofyn statudol i ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadw ac Asiantaeth yr Amgylchedd dros bump wythnos ynglŷn ag ehangder yr asesu. Ar ôl gorffen yr asesu a pharatoi adroddiad amgylcheddol, mae gofyn statudol i ymgynghori â’r un sefydliadau eto, yn ogystal â’r cyhoedd, am chwech wythnos ynglŷn â’r adroddiad hwnnw a’r strategaeth leol.
15.
Mapiau o berygl llifogydd: Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wrthi’n paratoi
mapiau fydd yn dangos pa mor ddwfn a chyflym fyddai
llifogydd. Fyddan nhw ddim yn barod erbyn 31ain
Mawrth, fodd bynnag. Bydd yr wybodaeth yn y mapiau
hynny’n cyfnerthu canlyniadau proses asesu peryglon llifogydd
a gwybodaeth leol arall ynglŷn â phennu ardaloedd lle
gallai fod llifogydd o achos dŵr ffo. Felly, daw mwy a
mwy o wybodaeth drwy’r amser fel y bydd modd deall y peryglon
yn well.
Oes unrhyw feini tramgwydd ynglŷn â diogelu arfordir Cymru? Os felly, sut mae mynd i’r afael â nhw?
16.
Mae’r prif feini tramgwydd yn ymwneud â
medrau/personél ac arian/adnoddau. Mae modd
lleddfu’r naill trwy weithdai datblygu gallu ond bydd ariannu
ar gyfer gweithredu yn broblem barhaus. Mae rhaglenni
presennol Undeb Ewrop wedi rhoi sawl adnodd i atal llifogydd ac
erydu arfordirol ac mae’n bwysig i brosiectau o’r fath
gael eu hariannu o hyd yn y rhaglenni newydd. Fe fydd angen
rhoi mwy a mwy o bwyslais ar gadernid cymunedau, gan godi eu
hymwybyddiaeth a phennu camau y gallan nhw eu cymryd i
leddfu’r peryglon.
17. Gallai fod meini tramgwydd ym meysydd cynllunio a chadw hefyd, ac mae’n bosibl y bydd y rheiny’n cwtogi ar allu cymunedau i symud yn ôl o’r arfordir dros amser. Ar lan y môr mae canol economaidd sawl pentref arfordirol, a gallai ffiniau datblygu caeth eu rhwystro rhag symud.
Pa mor effeithiol yw’r trefniadau ariannu
presennol ar gyfer diogelu’r arfordir?
18. Mae’r awdurdodau lleol heb ddeall weithiau sut mae proses dyrannu arian Llywodraeth Cymru yn gweithio. Ymhlith ystyriaethau eraill, rhaid cadw’r ddysgl yn wastad rhwng diogelu’r wlad rhag llifogydd y môr a llifogydd afonydd, a rhwng ariannu awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
19. Mae’n galonogol bod gwaith yn mynd rhagddo i lunio dull dyrannu arian ac iddo feini prawf a gweithdrefnau penodol yn ôl y peryglon dan sylw. Mae WLGA a’r awdurdodau lleol yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Llywodraeth Cymru i’r perwyl hwn. Yn rhan o’r gwaith, gallai fod cyfle i lunio ffordd gyson o drin a thrafod llifogydd y môr a llifogydd afonydd. Mae cynlluniau rheoli glan y môr yn ystyried pob rhan o’r arfordir yn ôl tri chyfnod fel y bydd modd cynllunio ar gyfer y tymor hir ac ystyried rhai dewisiadau megis ildio peth o’r tir neu roi’r gorau iddo’n llwyr mewn rhai broydd. Gallai gwaith sy’n mynd rhagddo yn ôl Deddf ‘Rheoli Llifogydd a Dŵr’ 2010 a Rheoliadau ‘Perygl Llifogydd’ 2009 helpu yn hynny o beth trwy roi’r wybodaeth briodol am afonydd allai orlifo.
20. Yr ystyriaeth olaf ynglŷn â hyn yw bod arfordir Cymru yn agored i lifogydd o achos hen forgloddiau a’r newid hinsoddol. Yn ogystal ag adeiladau, mae peth isadeiledd pwysig mewn perygl, hefyd. Yng ngoleuni hynny, mae’n bosibl y bydd rhagor o gydweithio a phartneriaethau, gan ofyn i sefydliadau megis Adran Adfywio Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Network Rail a’r asiantaethau cefnffyrdd roi arian ar gyfer cynlluniau diogelu’r arfordir.
Beth sy’n cael ei wneud i gyfleu’r
amcanion a’r peryglon o ran diogelu’r arfordir, a sut
rydych chi’n bwriadu cyfathrebu yn y dyfodol?
21. Mae Cynllun Rheoli Glanmor y Gorllewin wedi ystyried effeithiau llifogydd y môr, gan gynnwys y sefyllfa waethaf lle gallai lefel y môr godi o 2m dros y ganrif nesaf yn ôl adroddiad UKCIP09. Mae hynny wedi rhoi meincnod defnyddiol ynglŷn â chyflwyno a thrafod y pwnc ymhlith y cyhoedd ac ymgynghori â nhw am y dewisiadau prin o ran camau diogelu newydd. Bu ymgynghori sylweddol am gynllun Aber Hafren a bu rhagor o ymgynghori am ei strategaeth. Mae pob awdurdod lleol yn bwriadu cyhoeddi taflenni am faterion a pholisïau sy’n berthnasol i’w gynllun yn ei fro. Bydd awdurdodau lleol yn ymrwymo yn eu strategaethau i ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf er mwyn pennu’r ateb gorau. Bydd rhaid cydweithio’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd i ofalu bod y cyfathrebu’n gyson.
Beth yw barn y bobl gysylltiedig am y gwahanol
agweddau?
22. Bu ymateb da ac adborth defnyddiol i’r ymgynghori am gynlluniau rheoli glan y môr. Mae bwriad i ymgynghori am y strategaethau lleol eleni. Mae WLGA heb gael cyfle i drafod materion llifogydd a dŵr yn ei chyfarfodydd gwleidyddol ers yr etholiadau lleol fis Mai ond mae bwriad i’w trafod yn ystod seminar i’r cynghorwyr sy’n gyfrifol am yr amgylchedd, gwastraff a thrafnidiaeth ar 5/6ed Gorffennaf.
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Neville Rookes, (Swyddog Polisïau’r Amgylchedd)
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd
CF10 4LG
Ffôn: 029 2046 8625